
2013 Rhif 2006 (Cy. 197) (C. 85)
Harbyrau Pysgodfeydd, Cymru
Gorchymyn Deddf Mordwyaeth 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013
Gwnaed 1 Awst 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 13(2) a (4) o Ddeddf Mordwyaeth 2013.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Mordwyaeth 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mordwyaeth 2013.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Hydref 2013 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adrannau 5 a 6 o’r Ddeddf mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd yng Nghymru.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
11 Awst 2013