
2013 Rhif 1985 (Cy. 195) (C. 84)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (Cychwyn) 2013
Gwnaed 7 Awst 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 12(3) o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (Cychwyn) 2013.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 ddod i rym yw —
(a) 8 Awst 2013 ar gyfer adran 4; a
(b) 2 Medi 2013 ar gyfer adrannau 1 i 3 a 5 i 11.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
7 Awst 2013