Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei wneud o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2013/1747 (Cy.173) na chafodd ei argraffu.
2013 Rhif 1982 (Cy. 192)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir y Fflint) (Rhif 2) 2013
Gwnaed 6 Awst 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Awst 2013
Yn dod i rym 1 Hydref 2013

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o’i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir y Fflint) (Rhif 2) 2013.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2013 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir y Fflint) 2013 drwy hyn wedi ei ddirymu.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
6 Awst 2013
YR ATODLEN
Erthygl 2
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Sir y Fflint yn gyfan ac eithrio—
(a) yr A55 i gyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o fewn y sir;
(b) y darnau hynny o’r A550 o Gyfnewidfa Parc Glannau Dyfrdwy yr A548 i’r ffin sirol â Swydd Gaer;
(c) y darn hwnnw o ffordd ddeuol yr A494, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael, o’r ffin sirol â Swydd Gaer i gyffordd yr A55 yng Nghyfnewidfa Ewloe.