
2013 Rhif 18 (Cy.9) (C.2)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 6) 2013
Gwnaed 10 Ionawr 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a Dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 6) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw'r ardal ddaearyddol honno o Gymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani.
Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 1 Chwefror 2013
2 

(1) Daw darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym mharagraff (2) i rym ar 1 Chwefror 2013 mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
(a) Castell-nedd Port Talbot;
(b) Pen-y-bont ar Ogwr; ac
(c) Abertawe.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);
(b) adran 58 (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd) ac eithrio is-adrannau (2) a (6)(b), (c) a (d);
(c) adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);
(d) adran 60(2) (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);
(e) adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(f) adran 62(1) (amcanion y byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(g) adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);
(h) adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Ionawr 2013