
2013 Rhif 1799 (Cy. 181)
Addysg, Cymru
Gorchymyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013
Gwnaed 16 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 39(4) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 29 Ebrill 2013) i rym yw 1 Hydref 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2013