
2013 Rhif 1792 (Cy. 179)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau, a Chyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2013
Gwnaed 16 Gorffennaf 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym 1 Medi 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau, a Chyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â pherson pan fo diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y person hwnnw cyn 1 Medi 2013.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;
 ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011.
Diwygio Rheoliadau 2007
3 
Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 a 5.
4 
Yn rheoliad 2, paragraff (1), yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, mewnosoder “St-Barthélemy” yn y man priodol.
5 
Ym mharagraff 9 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraff (1)(c), cyn “sydd wedi bod yn preswylio fel arfer”, mewnosoder “yn ddarostyngedig i is-baragraff (1A),”;
(b) ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—“
(1A) Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu gwladolyn o’r UE—
(a) pan—
(i) fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth arall o dan erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii) na fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; a
(b) pan fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Diwygio Rheoliadau 2011
6 
Mae Rheoliadau 2011 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 ac 8.
7 
Ym mharagraff 1(1) o’r Atodlen, yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”, mewnosoder “St-Barthélemy” yn y man priodol.
8 
Ym mharagraff 9 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraff (1)(c), cyn “sydd wedi bod yn preswylio fel arfer”, mewnosoder “yn ddarostyngedig i is-baragraff (1A),”;
(b) ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—“
(1A) “Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu gwladolyn o’r UE—
(a) pan—
(i) fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth arall o dan erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; neu
(ii) na fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; a
(b) pan fo’r gwladolyn hwnnw o’r UE wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2013