
2013 Rhif 1733 (Cy. 172)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2013
Gwnaed 9 Gorffennaf 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 15 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym 31 Awst 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(5) ac 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2013 a daw i rym ar 31 Awst 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012; a
(b) mae i “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2012.
Swyddogaethau Atodol
2 
Mae’r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 2012, wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru—
(a) swyddogaethau sy’n ymwneud â thalu grant newydd at ffioedd o dan reoliad 69 o Reoliadau 2012;
(b) swyddogaethau sy’n ymwneud ag adennill gordaliad o grant newydd at ffioedd o dan reoliad 74 o Reoliadau 2012; ac
(c) swyddogaethau sy’n ymwneud â chais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2012 a chael yr wybodaeth honno, i’r graddau y mae’r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill grant newydd at ffioedd.
3 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 2.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2013