
2013 Rhif 1729 (Cy. 170)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Diddymu) 2013
Gwnaed 9 Gorffennaf 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 11 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym 1 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 128 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy.
Yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (“the University of Wales Trinity Saint David”), sef corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol o fewn ystyr adran 128(1)(b)(ii) o’r Ddeddf honno, wedi cydsynio i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (“Swansea Metropolitan University Higher Education Corporation”) gael eu trosglwyddo iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn unol ag adran 128(4) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Diddymu) 2013 a daw i rym ar 1 Awst 2013.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Corfforaeth Fetropolitan Abertawe” (“the Swansea Metropolitan Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe.
Diddymu Prifysgol Fetropolitan Abertawe
3 
Ar 1 Awst 2013 mae Corfforaeth Fetropolitan Abertawe wedi ei diddymu ac mae ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
4 
Mae adran 127 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn gymwys i unrhyw berson a gyflogwyd gan Gorfforaeth Fetropolitan Abertawe yn union cyn 1 Awst 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogwyd felly;
(b) at y dyddiad trosglwyddo yn gyfeiriadau at 1 Awst 2013;
(c) at yr awdurdod sy’n trosglwyddo yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Fetropolitan Abertawe;
(d) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2013