
2013 Rhif 1673 (Cy. 162)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Diddymu) 2013
Gwnaed 3 Gorffennaf 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym 1 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”) wedi cydsynio i drosglwyddiad eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Diddymu) 2013 a daw i rym ar 1 Awst 2013.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; ac
 ystyr “yr Hen Gorfforaethau” (“the Old Corporations”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”).
Diddymu a throsglwyddo
3 
Ar 1 Awst 2013 mae pob un o’r Hen Gorfforaethau wedi eu diddymu ac mae eu holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
Trosglwyddo staff
4 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan yr Hen Gorfforaethau yn union cyn 1 Awst 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2013;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at unrhyw un o’r Hen Gorfforaethau sy’n cyflogi’r person yn union cyn 1 Awst 2013; a
(d) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2013