
2013 Rhif 1663 (Cy. 159)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) a Choleg Sir Gar (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013
Gwnaed 3 Gorffennaf 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym 1 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28 o’r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 27C(2) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, mae Coleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”) wedi cydsynio i’r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) a Choleg Sir Gar (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013 a daw i rym ar 1 Awst 2013.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Diddymu a throsglwyddo
3 
Ar 1 Awst 2013 mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”) wedi ei diddymu a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Goleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol, ac sy’n elusen sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol sy’n ddibenion addysgol yn unig.
Trosglwyddo staff
4 
Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”) yn union cyn 1 Awst 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2013;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”); a
(d) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Goleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”).
Dynodi
5 
Mae Coleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”), sef sefydliad addysgol o’r math a ddisgrifir yn is-adrannau (1) a (2) o adran 28 o’r Ddeddf, wedi ei ddynodi fel sefydliad at ddibenion yr adran honno.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2013