
2013 Rhif 1659 (Cy. 157)
Addysg, Cymru
Gorchymyn y Cod Derbyniadau Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013
Gwnaed 3 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Derbyniadau Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw’r Cod Derbyniadau Ysgol (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mai 2013) i rym yw 8 Gorffennaf 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2013