
2013 Rhif 1657 (Cy. 155)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013
Gwnaed 2 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym yn unol â erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 23(9) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 35(3), Tabl 1, o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd drafft o’r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 a daw i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Diwygio Deddf Addysg 1996
2 

(1) Yn adrannau 444A neu 444B o Ddeddf Addysg 1996 dileer y geiriau “in England” ym mhob man lle y maent yn digwydd.
(2) Yn adran 569(2B) o Ddeddf Addysg 1996 yn lle “or 336” rhodder “, 336, 444A or 444B”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
2 Gorffennaf 2013