
2013 Rhif 1577 (Cy. 145)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 25 Mehefin 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Mehefin 2013
Yn dod i rym 1 Awst 2013

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru, cyn gwneud y Gorchymyn, â’r personau a oedd, yn eu barn hwy, yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Awst 2013.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007
2 
Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (y nodir Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ynddi) wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2013
YR ATODLEN
Erthygl 2
Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007
1 
Yn Rhan 1 (enwi a dehongli), yn rheol 2 (dehongli), ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol—
 ystyr “cael ei ailgofrestru’n awtomatig” (“automatically re-enrolled”) yw dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun ar y dyddiad ailgofrestru awtomatig;
 ystyr “cael ei gofrestru’n awtomatig” (“automatically enrolled”) yw dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun ar y dyddiad cofrestru awtomatig;
 ystyr “dewis ymuno” (“opt in”) yw dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun yn unol â’r hawl yn adran 7(3) o Ddeddf Pensiynau 2008 ac yn unol â’r trefniadau a ragnodir gan y Rheoliadau Cofrestru Awtomatig, ac mae ymadroddion tebyg i’w dehongli yn unol â hynny;
 ystyr “dyddiad ailgofrestru awtomatig” (“automatic re-enrolment date”) yw’r dyddiad a bennir yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau Cofrestru Awtomatig;
 mae i “dyddiad cofrestru awtomatig” yr ystyr a roddir i “automatic enrolment date” gan adran 3(7) (cofrestru awtomatig) o Ddeddf Pensiynau 2008;
 ystyr “y Rheoliadau Cofrestru Awtomatig” (“the Automatic Enrolment Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Cofrestru Awtomatig) 2010.
2 
Yn Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol) —
(a) yn rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun)—
(i) ym mharagraff (2) yn lle “rheol 6(4)” rhodder “rheol 6”; a
(ii) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan fo person sydd—
(a) wedi dechrau swydd fel diffoddwr tân cyn 6 Ebrill 2006;
(b) wedi parhau mewn swydd o’r fath tan ddyddiad cofrestru awtomatig y diffoddwr tân;
(c) wedi gwneud dewisiad i beidio â thalu cyfraniadau pensiwn o dan Gynllun 1992 neu nad yw’n gymwys i fod yn aelod o Gynllun 1992; ac
(ch) heb ddewis dod yn aelod o’r Cynllun hwn fel arall,
yn cael ei gofrestru’n awtomatig yn y Cynllun hwn, bydd y cofrestriad hwnnw yn golygu dewis dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun hwn.”;
(b) yn rheol 5 (dewis peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1ZA) Rhaid i hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) o’r rheol hon gael ei lofnodi gan yr aelod-ddiffoddwr tân neu, pan fo’r hysbysiad ar ffurf electronig, rhaid iddo gynnwys datganiad yn cadarnhau mai’r person hwnnw ei hun a gyflwynodd yr hysbysiad.”; ac
(c) yn rheol 6 (ailymuno â’r Cynllun)—
(i) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Caiff person sydd wedi gwneud dewisiad cyfraniadau ei ganslo drwy roi i’r awdurdod hysbysiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi neu, pan fo’r hysbysiad ar ffurf electronig, rhaid iddo gynnwys datganiad yn cadarnhau mai’r person hwnnw ei hun a gyflwynodd yr hysbysiad.”;
(ii) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Pan fo person sydd wedi gwneud dewisiad cyfraniadau yn cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig yn y Cynllun wedi hynny, bydd y cofrestriad neu’r ailgofrestriad hwnnw yn golygu canslo ei ddewisiad cyfraniadau.”;
(iii) hepgorer paragraffau (2) a (3); a
(iv) ym mharagraff (4), ar ôl “o’r rheol hon i law”, mewnosoder—“neu, yn achos aelod-ddiffoddwr tân sydd wedi cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig, bydd yn weithredol o’r dyddiad cofrestru neu ailgofrestru awtomatig (yn ôl y digwydd)”.
3 
Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol), yn rheol 8 (ad-dalu cyfraniadau pensiwn cyfanredol)—
(a) cyn paragraff (1) mewnosoder—“
(Z1) Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i baragraff (3).”; a
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n gwneud dewisiad cyfraniadau ar ôl cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig yn y Cynllun, neu ar ôl dewis ymuno â’r Cynllun, mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) ystyr “tri mis o wasanaeth cymhwysol” yw tri mis o wasanaeth cymhwysol er cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig, neu ddewis ymuno (yn ôl y digwydd), ar yr achlysur hwnnw; a
(b) ystyr “cyfraniadau pensiwn cyfanredol” yw’r taliadau a wneir gan yr aelod-ddiffoddwr tân i awdurdod cyflogi’r aelod drwy gyfraniadau pensiwn er cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig, neu ddewis ymuno (yn ôl y digwydd), ar yr achlysur hwnnw.”.