
2013 Rhif 1567 (Cy. 144)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 49, Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2013
Gwnaed 25 Mehefin 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 27 Mehefin 2013
Yn dod i rym 23 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw gyrff cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2013 a’u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 49, Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2013.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw Traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder
3 
Ni chaiff neb yrru cerbyd yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darn hwnnw o gerbytffordd tua’r gorllewin traffordd yr M4 sy’n ymestyn o bwynt sy’n 600 o fetrau i’r de o’i chyffordd â’r gylchfan ym Mhont Abraham (Cyffordd 49) yn Sir Gaerfyrddin hyd at ei chyffordd â’r gylchfan honno.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2013