
2013 Rhif 1566 (Cy. 143) (C. 62)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2013
Gwnaed 24 Mehefin 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 120(2) a (3) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012,yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2013.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Medi 2013 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau ym Mhennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 ddod i rym, i’r graddau y maent yn ymwneud ag ysgolion a sefydliadau addysg bellach.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2013