
2013 Rhif 1561 (Cy. 142)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 24 Mehefin 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Mehefin 2013
Yn dod i rym 18 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 18 Gorffennaf 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “cyfarfod rhieni blynyddol” (“annual parents’ meeting”).
(3) Yn rheoliad 5—
(a) hepgorer paragraffau (1)(c) a (2)(b);
(b) ym mharagraff (2) hepgorer “na’r gofyniad ym mharagraff (1)(c)”; ac
(c) ym mharagraff (2)(a) ar ôl “paragraffau 1,” mewnosoder “1A, 1B,”.
(4) Yn rheoliad 6 yn lle “paragraffau (a) nac (c) o reoliad 5(1) yn gymwys” rhodder “paragraff (a) o reoliad 5(1) yn gymwys”.
(5) Yn lle paragraff 1 o Atodlen 2 rhodder—“
1 
Pan fo corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod rhieni yn unol ag adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013—
(a) y dyddiad y cynhaliwyd y cyfarfod;
(b) lle y cynhaliwyd y cyfarfod;
(c) y rhesymau a roddwyd gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol dros ddeisebu i gael cyfarfod;
(d) enwau’r personau a ganlyn a fu’n bresennol yn y cyfarfod—
(i) aelodau o’r corff llywodraethu;
(ii) aelodau o staff yr ysgol;
(iii) cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol; a
(iv) enw unrhyw berson arall ac eithrio enw rhiant disgybl cofrestredig na fu’n bresennol yn rhinwedd ei swydd fel aelod rhiant-lywodraethwr o’r corff llywodraethu;
(e) faint o rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol a fu’n bresennol yn y cyfarfod;
(f) disgrifiad byr o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod;
(g) disgrifiad byr o’r camau gweithredu y penderfynodd y corff llywodraethu eu cymryd, os bu rhai, o ganlyniad i’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod; a
(h) disgrifiad byr o ganlyniad y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu, os bu rhai, o ganlyniad i’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod.”.
(6) Ar ôl paragraff 1 o Atodlen 2, mewnosoder—“
1A 
Where a governing body has not held a parents’ meeting pursuant to section 94 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 a brief statement to that effect.
1B 
Where a governing body has received a petition to hold a parents’ meeting pursuant to section 94 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 but no meeting was held—
(a) a brief statement to that effect;
(b) the purpose given by the parents for the need to hold a meeting; and
(c) the reason why a meeting was not held.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2013