
2013 Rhif 1469 (Cy. 140) (C. 57)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013
Gwnaed 12 Mehefin 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 322(2) a 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008, yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cytundeb awdurdod lleol” (“local authority agreement”) yw cytundeb y mae gan berson hawl oddi tano i osod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru;
 ystyr “cytundeb presennol” (“existing agreement”) yw cytundeb awdurdod lleol a wnaed cyn y diwrnod penodedig;
 ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symuol1983;
 ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Tai ac Adfywio 2008;
 ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan erthygl 2;
 ystyr “llain” (“pitch”) yw tir, sy’n ffurfio rhan o safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru, ac sy’n cynnwys unrhyw ran ar gyfer gardd, y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arno;
 ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo ac nad yw’n llain bontio;
 ystyr “llain bontio” (“transit pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo, am gyfnod penodedig o hyd at 3 mis:
 ystyr “safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol” (“local authority gypsy and traveller site”) yw unrhyw dir a feddiennir gan awdurdod lleol fel safle carafannau sy’n darparu llety i sipsiwn a theithwyr; ac
 ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw personau sydd ag arferion byw nomadig, beth bynnag fo’u hil neu’u tarddiad, ond nid yw’n cynnwys aelodau o grŵp trefnedig o bobl sioe neu bobl sy’n ymwneud â syrcasau teithiol ac yn cyd-deithio fel y cyfryw.
(3) Mae i ymadroddion eraill, a ddefnyddir ond nas diffinnir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Neddf 1983 yn ogystal, yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn â’r ymadroddion Saesneg hynny yn Neddf 1983.
Diwrnod penodedig: safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol
2 

(1) 10 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a) adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) of the 2008 Act;
(b) adran 321(1) (diddymiadau) o Ddeddf 2008 ac Atodlen16 iddi, i’r graddau y mae a wnelont â’r diddymiadau canlynol—

Enw Diddymiad
Deddf Cartrefi Symudol 1983 (p.34) Yn adran 5(1), yn y diffiniad o “protected site”, y geiriau o “does not include” i “that,”;
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) Yn adran 80(4), y geiriau o “in the definition” i “1983 or”.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 3 i 7.
Lleiniau pontio: arbedion at ddibenion penodol o Ddeddf 1983
3 
Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn gymwys at ddibenion adrannau 1(3), (4) a (6) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983, i’r graddau y maent yn ymwneud â llain bontio.
Cytundebau presennol: darpariaeth drosiannol gyffredinol
4 
Mae Deddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol fel y byddai’n gymwys i gytundeb awdurdod lleol a wnaed wedi i’r darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 Ddiwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013 ddod i rym, ond mae hyn yn ddarostyngedig i erthygl 5.
Cytundebau presennol: datgymwysiadau trosiannol o delerau a rhwymedigaethau penodol
5 

(1) Nid yw adrannau 1(2) i (9) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol.
(2) Mewn perthynas â chytundeb presennol—
(i) os cychwynnir achos cyfreithiol y mae terfynu’r cytundeb yn fater sy’n codi ynddo cyn y diwrnod penodedig, nid yw paragraffau 3 a 4 (terfynu) o Bennod 3, na pharagraffau 3 i 6 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (pa bynnag Bennod sy’n gymwys yn yr achos penodol dan sylw) yn gymwys;
(ii) nid yw paragraff 8 (ailosod cartref symudol) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys i ofyniad bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy, am unrhyw gyfnod, mewn perthynas â llain arall os gwneir y gofyniad cyn y diwrnod penodedig;
(iii) nid yw paragraff 15(2) a (6) i (11) (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â’r adolygiad cyntaf o’r ffi llain o dan y cytundeb hwnnw os yw dyddiad adolygu’r ffi llain, ar gyfer yr adolygiad hwnnw, o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig;
(iv) nid yw paragraff 16 (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys os cyflawnwyd gwaith mewn perthynas â gwelliant cyn y diwrnod penodedig;
(v) ni cheir gorfodi paragraff 19(c) a (d) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno mewn perthynas ag unrhyw doriad o’r cytundeb sy’n digwydd o fewn 3 mis i’r diwrnod penodedig;
(vi) nid yw paragraff 19(e) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â chostau a threuliau a dynnwyd cyn y diwrnod penodedig;
(vii) nid yw paragraff 20(f) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys pan fo gwaith mewn perthynas â’r gwelliannau yn cychwyn cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig; a
(viii) nid yw paragraff 20(g) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n codi cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig.
Cytundebau presennol: dyletswydd awdurdod lleol i ddarparu datganiad ysgrifenedig
6 

(1) Mewn perthynas â chytundeb presennol ynghylch llain sydd, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, yn dod yn llain barhaol, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig, roi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â’r paragraffau canlynol.
(2) Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig—
(a) nodi enwau a chyfeiriadau’r partïon;
(b) cynnwys manylion am y llain sy’n ddigonol ar gyfer ei hadnabod;
(c) nodi’r telerau a gynhwysir yn benodol yn y cytundeb;
(d) nodi’r telerau a fydd yn oblygedig yn rhinwedd cymhwyso Deddf 1983 i’r cytundeb; ac
(e) bod yn y ffurf a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn neu ffurf sydd â’r un effaith o ran ei sylwedd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw deler penodol a gynhwysir yn y cytundeb yn anorfodadwy gan awdurdod lleol neu gan unrhyw berson o fewn adran 3(1) o Ddeddf 1983, oni fydd y teler hwnnw wedi ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r parti arall yn unol â pharagraff (1).
(4) Os yw’r awdurdod lleol yn methu â rhoi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), caiff y parti arall, ar unrhyw adeg wedi i’r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddod i ben, wneud cais i dribiwnlys am orchymyn sy’n gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol—
(a) yn rhoi i’r parti hwnnw ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a) i (e), a
(b) yn gwneud hynny ddim hwyrach na’r cyfryw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.
(5) Ym mharagraff (4), mae i “tribiwnlys” yr ystyr a roddir i “tribunal” yn Neddf 1983 ac y mae awdurdodaeth tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw i’w thrin fel awdurdodaeth o dan Ddeddf 1983.
(6) Ceir cyflwyno datganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr erthygl hon naill ai i’r person hwnnw’n bersonol neu ei anfon drwy’r post.
(7) Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion adran 1 neu 2 o Ddeddf 1983.
(8) Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion Pennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.
Cytundebau presennol: arbediad cyffredinol
7 
Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedigaeth sydd wedi cronni mewn perthynas â chytundeb presennol, nac unrhyw rwymedi mewn perthynas ag unrhyw hawl neu rwymedigaeth o’r fath.
Huw Lewis
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

12 Mehefin 2013
YR ATODLEN
Datganiad Ysgrifenedig mewn perthynas â Deddf Cartrefi Symudol 1983
Erthygl 6(2)
