
2013 Rhif 1192 (Cy.128)
CYFLOGAETHA HYFFORDDIANT, CYMRU
Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013
Gwnaed 20 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Mai 2013
Yn dod i rym 23 Mehefin 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 28(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
Yn unol ag adran 28(5) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y fanyleb safonau prentisiaethau y rhoddwyd effaith iddi gan y Gorchymyn hwn yn cydymffurfio ag adran 31.

Dyma'r fanyleb safonau prentisiaethau ddrafft gyntaf i gael ei llunio ar ôl i adran 28 o'r Ddeddf honno gychwyn, ac yn unol ag adran 28(4), nid oedd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy'n briodol yn eu barn hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013 a daw i rym ar 23 Mehefin 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru
2 
Mae'r ddogfen o'r enw "The Specification of Apprenticeship Standards for Wales (SASW)" a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 13 Mai 2013 yn cael effaith.
Jeff Cuthbert
O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2013