
2013 Rhif 1144 (Cy.122)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Dyddiad Cynnig Cyffredin) (Cymru) 2013
Gwnaed 14 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymrus 17 Mai 2013
Yn dod i rym 8 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 89B(5) a 138A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Dyddiad Cynnig Cyffredin) (Cymru) 2013.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Gorffennaf 2013.
(3) Mae rheoliad 3 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn ysgol uwchradd a gynhelir i gynnig neu i wrthod lle i blentyn yn yr ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/2016 a'r blynyddoedd academaidd ar ôl hynny.
(4) Mae rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn ysgol gynradd a gynhelir i gynnig neu i wrthod lle i blentyn yn yr ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/2019 a'r blynyddoedd academaidd ar ôl hynny.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr "blwyddyn dderbyn" ("admission year") mewn perthynas â derbyn disgyblion i grwˆp oedran perthnasol mewn ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd benodol yw'r flwyddyn academaidd honno;
 ystyr "blwyddyn gynnig" ("offer year") yw'r flwyddyn academaidd sydd yn union o flaen y flwyddyn dderbyn;
 ystyr "Cod Derbyniadau Ysgol" ("School Admissions Code") yw unrhyw god ar gyfer derbyniadau ysgol o dan adran 84 o DSFfY 1998;
 ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wˆyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr "DSFfY 1998" ("the SSFA 1998") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr "dyddiad cynnig" ("offer date") yw'r dyddiad a ragnodir gan reoliadau 3 a 4 pan fydd rhieni yn cael eu hysbysu am y lle a neilltuwyd i'w plentyn mewn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd;
 ystyr "prosbectws cyfansawdd" ("composite prospectus") yw'r prosbectws cyfansawdd y mae'n ofynnol i awdurdod lleol ei gyhoeddi o dan reoliad 4 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 sy'n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i'r rheoliadau hynny ac yn y Cod Derbyniadau Ysgol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cais wedi ei wneud yn ystod cylch derbyn arferol—
(a) os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran perthnasol; a
(b) os nad yw'n gais hwyr nac yn gais a wneir yn ystod y flwyddyn.
(3) At ddiben y Rheoliadau hyn mae cais yn gais hwyr—
(a) os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran perthnasol;
(b) os cyflwynir y cais cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn dderbyn;
(c) os cyflwynir y cais ar ôl y dyddiad a nodir yn y prosbectws cyfansawdd ar gyfer cael ceisiadau i dderbyn plant i ysgolion a gynhelir; a
(d) os nad yw penderfyniad sy'n ymwneud â'r cais yn cael ei wneud gan awdurdod derbyn ar neu cyn y dyddiad cynnig.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cais yn gais a wneir yn ystod y flwyddyn—
(a) os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran perthnasol a'i fod wedi ei gyflwyno ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn dderbyn neu ar ôl hynny; neu
(b) os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran ac eithrio grwˆ p oedran perthnasol.
Y diwrnod y mae'r penderfyniadau mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion uwchradd i gael eu cyfleu i rieni
3 

(1) Y diwrnod a ragnodir yn y flwyddyn gynnig pan gaiff y penderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn i gynnig neu i wrthod lle i blentyn mewn ysgol uwchradd ei gyfleu i'r rhiant yw 1 Mawrth.
(2) Mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw 1 Mawrth yn ddiwrnod gwaith y diwrnod a ragnodir yw'r diwrnod gwaith nesaf.
(3) Dim ond mewn perthynas â phenderfyniad a wneir ynghylch cais a wneir yn ystod cylch derbyn arferol y mae paragraff (1) yn gymwys.
Y diwrnod y mae'r penderfyniadau mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion cynradd i gael eu cyfleu i rieni
4 

(1) Y diwrnod a ragnodir yn y flwyddyn gynnig pan gaiff y penderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn i gynnig neu i wrthod lle i blentyn mewn ysgol gynradd ei gyfleu i'r rhiant yw 16 Ebrill.
(2) Mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw 16 Ebrill yn ddiwrnod gwaith y diwrnod a ragnodir yw'r diwrnod gwaith nesaf.
(3) Dim ond mewn perthynas â phenderfyniad a wneir ynghylch cais a wneir yn ystod cylch derbyn arferol y mae paragraff (1) yn gymwys.
Leighton Andr
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2013