
2013 Rhif 1141 (Cy.121)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013
Gwnaed 14 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Mai 2013
Yn dod i rym 8 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freinir bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2013.
(2) Mae paragraffau 4, 11 a 12 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2014/2015 a'r blynyddoedd dilynol.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ysgol a gynhelir yng Nghymru sy'n cynnwys dosbarth babanod.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr "addysg addas" ("suitable education") mewn perthynas â phlentyn yw addysg amser llawn effeithlon sy'n addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod gan y plentyn hwnnw;
 ystyr "DA 1996" ("the EA 1996") yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr "DSFfY 1998" ("the SSFA 1998") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr "plentyn sydd â datganiad" ("child with a statement") yw plentyn y cynhelir datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324(1) o DA 1996.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin plentyn fel pe bai wedi ei dderbyn i ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol os yw paragraff (3) neu (4) yn gymwys.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os, ar yr adeg y derbyniwyd y plentyn i'r ysgol, nad oedd y plentyn yn dod o fewn grwˆ p oedran y derbynnir y disgyblion sydd ynddo i'r ysgol fel arfer.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn—
(a) os oedd y plentyn, ar yr adeg y'i derbyniwyd i'r ysgol, yn dod o fewn grwˆ p oedran y derbynnir y disgyblion sydd ynddo i'r ysgol fel arfer;
(b) os oedd nifer y disgyblion yn y grwˆ p oedran hwnnw a oedd yn ceisio cael eu derbyn i'r ysgol, yn y flwyddyn ysgol pan dderbyniwyd y plentyn hwnnw i'r ysgol am y tro cyntaf, yn fwy na nifer y disgyblion yn y grwˆ p oedran hwnnw yr oedd yr awdurdod derbyn yn bwriadu eu derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn honno; ac
(c) os cynigiwyd lle i'r plentyn yn yr ysgol ar ôl yr amser pan oedd yr awdurdod derbyn wedi penderfynu, yn unol â threfniadau derbyn yr ysgol, pa blant yn y grwˆ p oedran hwnnw oedd i gael eu derbyn i'r ysgol.
(5) Ym mharagraffau (2) i (4) mae'r cyfeiriadau at dderbyn plentyn i ysgol yn gyfeiriadau at dderbyn plentyn i ddosbarth babanod yn yr ysgol honno.
Rheoliadau a Ddirymir
3 
Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998;
(b) Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) (Diwygio) 2009.
Terfyn ar feintiau dosbarthiadau babanod
4 

(1) Ni chaiff unrhyw ddosbarth babanod gynnwys mwy na 30 o ddisgyblion tra bo sesiwn addysgu gyffredin yn cael ei chynnal gan un athro neu athrawes ysgol.
(2) Pan gynhelir sesiwn addysgu gyffredin gan fwy nag un athro neu athrawes ysgol, ni chaiff y dosbarth babanod gynnwys mwy na 30 o ddisgyblion am bob un o'r athrawon hynny.
(3) Os yw dosbarth babanod yn cynnwys unrhyw ddisgybl a eithrir (fel y'i diffinnir gan reoliad 5), mae'r terfynau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys fel pe na bai'r disgybl a eithrir wedi ei gynnwys yn y dosbarth.
Disgyblion a eithrir
5 

(1) Disgybl a eithrir yw plentyn y mae unrhyw un o baragraffau 2 i 14 o'r Atodlen yn gymwys iddo.
(2) Nid yw plentyn yn ddisgybl a eithrir mewn ysgol os gellid darparu addysg addas i'r plentyn hwnnw mewn dosbarth babanod yn yr ysgol honno heb orfod cymryd camau perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr "camau perthnasol" ("relevant measures") yw camau—
(a) y byddai'n ofynnol eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd a osodir gan adran 1(6) o DSFfY 1998; a
(b) a fyddent yn niweidio'r ddarpariaeth o addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau.
Leighton Andr
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2013
YR ATODLEN
(Rheoliad 5)
Disgyblion a Eithrir
1 
Yn yr Atodlen hon—
(a) ystyr "plentyn" ("a child") yw plentyn sy'n ddisgybl mewn unrhyw ddosbarth babanod;
(b) ystyr "yr ysgol" ("the school") yw'r ysgol y mae'r dosbarth babanod hwnnw'n rhan ohoni;
(c) ystyr "lluoedd arfog" ("armed forces") yw'r Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, y fyddin reolaidd neu'r Llu Awyr Brenhinol;
(d) ystyr "y fyddin reolaidd" ("the regular army") yw unrhyw un o luoedd milwrol Ei Mawrhydi ac eithrio—
(i) y Fyddin Wrth Gefn,
(ii) y Fyddin Diriogaethol, a
(iii) lluoedd a godwyd o dan gyfraith Tiriogaeth Dramor Brydeinig.
2 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sydd â datganiad, a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol, o ganlyniad i bennu'r ysgol honno gan yr awdurdod lleol yn natganiad y plentyn o dan adran 324(5)(b) o DA 1996.
3 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989) ac a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol.
4 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn a oedd gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ond a beidiodd â derbyn gofal o'r fath oherwydd iddo gael ei fabwysiadu neu ddod yn destun gorchymyn preswylio neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig, ac a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol.
5 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol ac y gwrthodwyd ei dderbyn i'r ysgol yn wreiddiol oherwydd methiant i weithredu trefniadau derbyn yr ysgol yn briodol, ond y cynigiwyd lle iddo yn ddiweddarach yn rhinwedd penderfyniad gan yr awdurdod derbyn bod methiant o'r fath wedi digwydd mewn perthynas â'r plentyn.
6 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol yn rhinwedd penderfyniad gan banel apêl yn unol ag adran 94(6) o DSFfY 1998.
7 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol, ac—
(a) mewn perthynas â'r plentyn, yr ysgol honno yw'r unig ysgol (ac eithrio unrhyw ysgol y gwrthodwyd derbyn y plentyn iddi eisoes, neu y gwaharddwyd y plentyn ohoni yn barhaol) sydd—
(i) o fewn pellter rhesymol o gartref y plentyn, a
(ii) yn darparu addysg addas; a
(b) nid oedd y plentyn, ar yr amser perthnasol, yn preswylio fel arfer mewn man a oedd o fewn pellter rhesymol o'r ysgol honno.
(2) Yn is-baragraff (1)(b) ystyr "yr amser perthnasol" ("the relevant time")—
(a) mewn perthynas â phlentyn y mae rheoliad 2(3) yn gymwys iddo, yw'r amser y derbyniwyd i'r ysgol y mwyafrif o'r disgyblion yn y grwˆ p oedran y mae'r plentyn yn perthyn iddo; a
(b) mewn perthynas â phlentyn y mae rheoliad 2(4) yn gymwys iddo, yw'r amser y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw.
(3) Nid yw plentyn yn ddisgybl a eithrir o dan y paragraff hwn oni fydd yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol wedi cadarnhau, mewn ysgrifen, iddo gael ei fodloni bod y plentyn yn bodloni'r meini prawf a restrir yn is-baragraff (1)(a).
8 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol—
(a) os dymunir cael addysg mewn ysgol o gymeriad crefyddol penodol, a
(b) os yr ysgol honno yw'r unig ysgol o'r fath o fewn pellter rhesymol o gartref y plentyn.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr "ysgol o gymeriad crefyddol penodol" ("a school of a particular religious character") yw ysgol y dynodir bod ganddi gymeriad o'r fath gan orchymyn a wnaed o dan adran 69(3) o DSFfY 1998.
(3) Os nad yr awdurdod lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol dan sylw, ni fydd y plentyn yn ddisgybl a eithrir oni fydd yr awdurdod lleol wedi cadarnhau, mewn ysgrifen, nad oes lleoedd ar gael mewn ysgol arall o'r cymeriad crefyddol penodol hwnnw o fewn pellter rhesymol o gartref y plentyn.
9 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol—
(a) os dymunir cael addysg mewn ysgol Gymraeg, a
(b) os yr ysgol honno yw'r unig ysgol o'r fath o fewn pellter rhesymol o gartref y plentyn.
(2) Yn is-baragraff (1) mae i "ysgol Gymraeg" ("a school which is Welsh-speaking") yr ystyr a roddir yn adran 105(7) o Ddeddf Addysg 2002.
(3) Os nad yr awdurdod lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol dan sylw, ni fydd y plentyn yn ddisgybl a eithrir oni fydd yr awdurdod lleol wedi cadarnhau, mewn ysgrifen, nad oes lleoedd ar gael mewn ysgol Gymraeg arall o fewn pellter rhesymol o gartref y plentyn.
10 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn—
(a) os oedd y plentyn, ar yr adeg y'i derbyniwyd i'r ysgol, yn dod o fewn grwˆ p oedran y derbynnir y disgyblion sydd ynddo i'r ysgol fel arfer;
(b) os oedd nifer y disgyblion yn y grwˆ p oedran hwnnw a oedd yn ceisio cael eu derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn dderbyn ysgol honno yn llai na nifer y disgyblion yn y grwˆ p oedran hwnnw y bwriedid eu derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn honno;
(c) os cynigiwyd lle i'r plentyn yn yr ysgol ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol berthnasol; a
(d) os yw'r ysgol wedi trefnu ei dosbarthiadau ar gyfer plant yn y grwˆ p oedran hwnnw sy'n ceisio cael eu derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn dderbyn ysgol honno ac, oni ellid darparu addysg addas i'r plentyn hwnnw mewn dosbarth babanod arall yn yr ysgol honno, y byddai derbyn y plentyn yn ei gwneud yn ofynnol cymryd camau perthnasol.
11 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn y mae ei riant yn y lluoedd arfog ac a dderbyniwyd i'r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol.
12 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sydd â gefell iddo, neu sibling arall o enedigaeth luosog, wedi ei dderbyn i'r ysgol yn yr un grwˆ p oedran rywfodd ac eithrio fel disgybl a eithrir.
13 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig ond sy'n derbyn rhan o'i addysg yn yr ysgol, drwy drefniant rhwng yr ysgol a'r ysgol arbennig.
14 
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn a addysgir fel arfer mewn uned sy'n rhan o'r ysgol ac a drefnwyd yn arbennig i ddarparu addysg i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig, ond sy'n treulio lleiafrif o'i amser yn y dosbarth babanod.
15 
Nid yw paragraffau 3 i 12 yn gymwys i blentyn sydd â datganiad.