
2013 Rhif 1112 (Cy.118) (C.48)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2013
Gwnaed 7 Mai 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 83(5)(b) o Ddeddf Iechyd 2006.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006.
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â'r pŵer i godi tâl
2 
9 Mai 2013 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 34 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
7 Mai 2013