
2013 Rhif 1049 (Cy.111)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013
Gwnaed 1 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Mai 2013
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013, ac maent yn dod i rym ar 24 Mai 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992
2 
Mae paragraff 3(a) o'r Atodlen i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd paragraff (iv) hepgorer “or”; a
(b) ar ôl paragraff (v) mewnosoder—“or
(vi) armed forces independence payment under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011;”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
1 Mai 2013