
2013 Rhif 1048 (Cy.110)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013
Gwnaed 1 Mai 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mai 2013
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013, ac mae'n dod i rym ar 24 Mai 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992
2 
Mae paragraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (m) yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (m) mewnosoder—“
(n) armed forces independence payment under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
1 Mai 2013