
2012 Rhif 975 (Cy.129)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 28 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mawrth 2012
Yn dod i rym 1 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau a ganlyn yn cael eu paratoi.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Mai 2012.
Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 9 (hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw), hepgorer y geiriau “sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004”.
(3) Ar ôl paragraff (3) o reoliad 22 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiro), ychwaneger y canlynol fel paragraff (4) newydd—“
(4) Pan fo llys, ar apêl yn erbyn hysbysiad camau cywiro o dan baragraff (1), yn canslo'r hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd busnes bwyd a ddygodd yr apêl mewn cysylltiad ag unrhyw golled a gafwyd oherwydd bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, a bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw yn cael ei benderfynu drwy gymrodeddu.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2012