
2012 Rhif 948 (Cy.125)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 26 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Mawrth 2012
Yn dod i rym 18 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr UE, ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Ebrill 2012.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011.
Diwygio rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011
3 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011, yn y testun Cymraeg, ar ôl y diffiniad o “darpariaeth eidion Ewropeaidd” (“European beef provision”), mewnosoder—“
 ystyr “darpariaeth moch Ewropeaidd” (“European pig provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno;”.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2012