
2012 Rhif 935 (Cy.121)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaenol) (Cymru) (Dirymu) 2012
Gwnaed 23 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Mawrth 2012
Yn dod i rym 18 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 108(2)(b)(iii), (5), (6), (9) ac (11) a 210 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaenol) (Cymru) (Dirymu) 2012 a daw i rym ar 18 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaenol) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
23 Mawrth 2012