
2012 Rhif 934 (Cy.120)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2012
Gwnaed 24 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Mawrth 2012
Yn dod i rym 20 Ebrill 2012

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21(6) a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub neu bersonau yr ystyrir eu bod yn eu cynrychioli hwy, personau yr ystyrir eu bod yn cynrychioli cyflogeion awdurdodau tân ac achub a phersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 20 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub
2 
Bydd y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, a baratowyd gan Weinidogion Cymru, sy'n dwyn yr enw “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012” ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 27 Mawrth 2012, yn cael effaith fel diwygiad, sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn arwyddocaol, o Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008 -2011.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2012