
2012 Rhif 842 (Cy.115)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2012
Gwnaed 14 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Mawrth 2012
Yn dod i rym 9 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ebrill 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau sydd eu hangen at anghenion personol
2 
Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £24.00 yr wythnos.
Dirymu
3 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011 drwy hyn wedi ei ddirymu.
Diwygio rheoliad 20A o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992
4 
Yn Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992, ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn cyfalaf — Cymru), yn lle'r ffigur “£22,500” rhodder y ffigur “£23,250”.
Diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003
5 

(1) Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Asesu” mewnosoder—“
 ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw'r swm cyfalaf a bennir yn rheoliad 20A(2) o'r Rheoliadau Asesu.”; a
(b) hepgorer y diffiniad o “terfyn cyfalaf isaf”.
(3) Yn rheoliad 4(2)(b) ac (c), hepgorer “isaf” yn y ddau le y mae'n ymddangos.
(4) Mae rheoliad 5(2) drwy hyn wedi ei ddirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mawrth 2012