
2012 Rhif 826 (Cy.114)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Swyddogion Awdurdodedig (Archwilio Cig) (Dirymu) (Cymru) 2012
Gwnaed 13 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Mawrth 2012
Yn dod i rym 6 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddogion Awdurdodedig (Archwilio Cig) (Dirymu) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2012.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Swyddogion Awdurdodedig (Archwilio Cig) 1987 wedi eu dirymu o ran Cymru.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2012