
2012 Rhif 805 (Cy.112)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau Llanfair Dinbych-y-pysgod a Dinbych-y-pysgod) 2012
Gwnaed 10 Mawrth 2012
Yn dod i rym 1 Ebrill 2012

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dyddiedig Hydref 2011 ar ei adolygiad o gymunedau Llanfair Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro a'i gynigion ynglŷn â hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sy'n arferadwy bellach ganddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau Llanfair Dinbych-y-pysgod a Dinbych-y-pysgod) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym at bob diben ar 1 Ebrill 2012, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Map” (“the Map”) yw'r map a farciwyd â “Y map y cyfeirir ato yng Ngorchymyn Sir Benfro (Cymunedau Llanfair Dinbych-y-pysgod a Dinbych-y-pysgod) 2012” ac sydd wedi ei adneuo yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
 mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o Sir Benfro; ac
 os dangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, rhaid ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
Newid ardaloedd cymunedau a newidiadau canlyniadol mewn trefniadau etholiadol
3 
Mae'r rhan o gymuned Dinbych-y-pysgod a ddangosir â llinellau rhesog ar y Map—
(a) wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfair Dinbych-y-pysgod; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Penalun.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Lywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2012