
2012 Rhif 800 (Cy.109)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 9 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mawrth 2012
Yn dod i rym 9 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 9 Ebrill 2012.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
Diwygio Rheoliadau 2007
3 

(1) Diwygir Rheoliadau 2007 fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn yr addasiad o reoliad 45 (terfyn cyfalaf), yn lle “£22,500” rhodder “£23,250”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2012