
2012 Rhif 753 (Cy.103)
Y GYMRAEG, CYMRU
Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012
Gwnaed 7 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mawrth 2012
Yn dod i rym 1 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 138 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.
Buddiannau cofrestradwy
2 
Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swydd perthnasol at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012
YR ATODLEN
BUDDIANNAU COFRESTRADWY
Rheoliad 2
RHAN 1
Dehongli
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “aelod o deulu” (“family member”) mewn perthynas â deiliad swydd perthnasol yw partner y deiliad swydd perthnasol ac unrhyw blentyn;
 ystyr “eiddo perthnasol” (“relevant property”) yw tir neu eiddo deallusol y mae gan y Comisiynydd fuddiant ynddo lle bo'r buddiant hwnnw wedi ei gaffael drwy arian a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru dan baragraff 14 o Atodlen 1 i'r Mesur;
 ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
 ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu un o gwpl boed hynny o'r un rhyw neu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel dau briod;
 ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw person sydd o fewn Atodlen 6 neu 8 i'r Mesur (boed hynny fel unigolyn neu fel rhan o grŵp o bersonau); ac
 ystyr “plentyn” (“child”) yw unrhyw berson sydd, pan gofrestrir y buddiant, naill ai yn—
(a) plentyn i'r deiliad swydd perthnasol;
(b) llysblentyn i'r deiliad swydd perthnasol drwy briodas neu bartneriaeth sifil;
(c) person sydd wedi ei fabwysiadu'n gyfreithiol gan ddeiliad swydd perthnasol;
(d) person sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r deiliad swydd perthnasol; neu
(e) person sy'n iau nag un ar bymtheng mlwydd oed, neu'n iau na phedair ar bymtheng mlwydd oed ac yn derbyn addysg amser-llawn, ac sydd am y chwe mis calendr blaenorol wedi cael cefnogaeth ariannol gan y deiliad swydd perthnasol.
RHAN 2
Buddiannau
Dyma'r buddiannau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2—
(a) manylion unrhyw swydd neu gyflogaeth a ddelir gan aelod o deulu deliad swydd perthnasol gyda pherson perthnasol;
(b) manylion unrhyw fuddiant sydd gan ddeiliad swydd perthnasol neu aelod o deulu deiliad swydd perthnasol mewn eiddo perthnasol;
(c) enwau cwmnïau neu gyrff eraill y mae gan ddeiliad swydd perthnasol, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelod o'i deulu, neu ar ran aelod o'i deulu, fuddiant llesiannol mewn cyfranddaliadau; a
(d) swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan ddeiliad swydd perthnasol mewn unrhyw gwmni, gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr na thelir tâl iddynt yn unigol ond lle telir tâl drwy gwmni arall yn yr un grŵp.