
2012 Rhif 746 (Cy.101)
Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Partneriaeth Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2012
Gwnaed 7 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mawrth 2012
Yn dod i rym 3 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 72(5)(e) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Yn unol ag adran 72(6) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Partneriaeth Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Partneriaeth Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2012.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Byrddau Iechyd Lleol” (“Local Health Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
 ystyr “Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trusts”) yw'r Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Pennu awdurdodau
3 
Mae Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi eu pennu'n awdurdodau lleol at ddibenion adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012