
2012 Rhif 739 (Cy.99) (C.19)
TIROEDD COMIN, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012
Gwnaed 7 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 56(1) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 1965; ac
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau yn dod i rym
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012—
(a) adran 16 (datgofrestru a chyfnewid: ceisiadau);
(b) adran 17(1) i (2) a (4) i (9) (datgofrestru a chyfnewid: gorchmynion);
(c) adran 38 (gwaharddiad ar weithfeydd heb gydsyniad);
(ch) adran 39(1) i (5) a (7) (cydsyniad: cyffredinol);
(d) adran 41 (gorfodi);
(dd) adran 42(1) i (3) a (5) (cynlluniau);
(e) adran 48 (cau tir); ac
(f) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(i) Atodlen 4 (gweithfeydd: atodol); a
(ii) Rhannau 2, 3 a 5 o Atodlen 6 (diddymiadau), ac adran 53 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny.
Darpariaethau yn dod i rym at bob diben sy'n weddill
3 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym at bob diben sy'n weddill ar 1 Ebrill 2012—
(a) adran 17(3) a (10) (datgofrestru a chyfnewid: gorchmynion);
(b) adran 39(6) (cydsyniad);
(c) adran 40 (cydsyniad: y weithdrefn);
(ch) adran 42(4) (cynlluniau);
(d) adran 43 (y pŵer i esemptio); ac
(dd) adran 44 (materion atodol).
Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion
4 

(1) Hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas ag unrhyw ardal o Gymru—
(a) mae cyfeiriadau at dir wedi ei gofrestru'n dir comin neu'n faes y dref neu'n faes y pentref yn y canlynol—
(i) adrannau 16 ac 17 o Ddeddf 2006;
(ii) adrannau 38 a 44 o Ddeddf 2006; a
(iii) adran 29(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907,
mewn perthynas â'r ardal honno, i'w trin fel cyfeiriadau at dir sydd wedi ei gofrestru felly o dan Ddeddf 1965;
(b) mae cyfeiriadau yn adran 17 o Ddeddf 2006 at hawliau comin yn cael eu cofrestru'n rhai sy'n arferadwy dros dir o'r fath i'w trin, mewn perthynas â'r ardal honno, fel cyfeiriadau at hawliau comin sydd wedi eu cofrestru felly o dan Ddeddf 1965; a
(c) mae gorchymyn o dan adran 17(1) o Ddeddf 2006 sy'n ymwneud â thir yn yr ardal honno i'w drin fel gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cofrestru tiroedd Comin dynnu'r tir a ryddheir o gofrestr y tiroedd comin neu feysydd tref neu bentref a gedwir o dan Ddeddf 1965, ac (os yw'n gymwys) i gofrestru'r materion y cyfeirir atynt yn adran 17(2) o Ddeddf 2006 yn y gofrestr honno.
(2) Er gwaethaf diddymu adran 147 o Ddeddf Cau Tir 1845, adran 4 o Ddeddf Cau Tir 1847 ac adrannau 4 a 5 o Ddeddf Cau Tir 1857, mae unrhyw gais am orchymyn cyfnewid o dan adran 147 o Ddeddf Cau Tir 1845 a wnaed cyn 1 Ebrill 2012 i'w drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi parhau mewn grym.
(3) Ni fydd adran 38(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithfeydd sy'n cael eu gwneud yn unol â chydsyniad a roddir o dan adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 cyn 1 Ebrill 2012.
(4) Er gwaethaf diddymu adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925—
(a) mae unrhyw gais am gydsyniad o dan yr adran honno a wnaed cyn 1 Ebrill 2012 i'w drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'r adran honno'n parhau mewn grym; a
(b) os rhoddir cydsyniad i gais o'r fath, ni fydd adran 38(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithfeydd sy'n cael eu gwneud yn unol â'r cydsyniad hwnnw.
(5) Ni fydd adran 23(2A) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am gydsyniad o dan yr adran honno a wnaed cyn 1 Ebrill 2012.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012