Gwnaed yr Offeryn Statudol Cymreig hwn o ganlyniad i ddiffyg yn OSC 2011/3042 (Cy.320) as fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys eu bod wedi cael yr Offeryn Statudol Cymreig hwnnw.
2012 Rhif 65 (Cy.16)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 10 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliadau 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 11(1), (2)(b), (d), (f) a (3), 12(1), (2) a (4), 24(1)(c) a 26(3) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r rheoliad hwn a rheoliadau 2 a 3 i rym am 12:01 am ar 15 Ionawr 2012.
(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym yn union ar ôl hynny.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(5) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004.
Dirymu Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011 wedi eu dirymu.
(2) Mae'r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hynny wedi eu dadwneud.
Dirymu Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011
3 
Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011 wedi eu dirymu.
Diwygio Rheoliadau 2004
4 
Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygio rheoliad 2(1) (dehongli)
5 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);
(b) hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);
(c) yn y mannau priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol;
 ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol;”;
(ch) hepgorer y diffiniadau o “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).
Rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad”
6 
Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
Amnewid y term “gwastraff trefol a gasglwyd”
7 
Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd”—
(a) rheoliad 6(1)(b) ac (c);
(b) yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);
(c) rheoliad 14(2)(ii).
Amnewid y term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”
8 
Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”.
Amnewid rheoliad 8 (penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff)
9 
Yn lle rheoliad 8 rhodder—“
Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a gasglwyd sydd mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd
8 
Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd.”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
10 Ionawr 2012