
2012 Rhif 64 (Cy.15)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 11 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Ionawr 2012
Yn dod i rym 12 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu y porthir hwy ag ef.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2012.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (7).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC;”;
(ii) hepgorer y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”;
(iii) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn —“
 mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;”, a
(iv) yn y diffiniad o “cynnyrch penodedig”, yn lle “yr Atodiad” rhodder “Atodiad I”; a
(b) mewnosoder y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (2) —“
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir ym Mhenderfyniad y Comisiwn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ystyr sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw ym Mhenderfyniad y Comisiwn.”.
(3) Yn lle'r pennawd i reoliad 3 (cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig gyntaf ar y farchnad) a pharagraff (1) ohono, rhodder y canlynol —“
Cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig ar y farchnad
3 

(1) Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig ar y farchnad—
(a) oni chydymffurfiwyd ag amodau a bennir yn Erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn mewn perthynas â'r cynnyrch; a
(b) oni bai bod llwyth y cynnyrch penodedig wedi ei rannu yn dilyn rheolaeth swyddogol, a bod copi dilysedig o'r dystysgrif iechyd a'r adroddiad dadansoddiadol yn dod gyda phob rhan o'r llwyth rhanedig.”.
(4) Mae rheoliad 4 (hysbysu am ganlyniadau cadarnhaol) wedi ei hepgor.
(5) Yn lle paragraff (4) o reoliad 5 (gorfodi) rhodder y canlynol —“
(4) Y gofynion yw'r rhai a bennir yn —
(a) Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r amodau y caniateir i gynhyrchion penodedig gael eu rhoi ar y farchnad odanynt, y rheolaethau swyddogol sydd i'w cyflawni a'r mesurau sydd i'w cymryd parthed llwythi nad ydynt yn cydymffurfio); a
(b)  brawddeg gyntaf Erthygl 7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â rheoli rhannu llwythi).”.
(6) Ym mharagraff (b) o reoliad 6 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990), yn lle “rhoi gyntaf ar y farchnad” rhodder “rhoi ar y farchnad”.
(7) Mewnosoder y rheoliadau canlynol yn union ar ôl rheoliad 6 —“
Treuliau sy'n deillio o reolaethau swyddogol
7 
Bydd treuliau a godir gan awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd ar weithredwr yn unol ag Erthygl 8 o Benderfyniad y Comisiwn yn daladwy gan y gweithredwr ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod.
Darpariaeth drosiannol
8 
Nid yw'r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys mewn perthynas â unrhyw gynnyrch penodedig a adawodd Tsieina cyn 1 Chwefror 2012 ar yr amod —
(a) bod y gwaith samplu a dadansoddi wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 4(3) o Benderfyniad y Comisiwn; a
(b) na fyddai rhoi'r cynnyrch ar y farchnad wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn sefyll yn union cyn i Reoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012 ddod i rym.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2012