
2012 Rhif 631 (Cy.88)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012
Gwnaed 29 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Mawrth 2012
Yn dod i rym 1 Ebrill 2012

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo wedi cydsynio i drosglwyddiad eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf.

Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012, a daw i rym ar 1 Ebrill 2012.
Diddymu a throsglwyddo
2 
Ar 1 Ebrill 2012, diddymir Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai, a throsglwyddir ei heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo, corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.
Trosglwyddo staff
3 
Mae Adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai yn union cyn 1 Ebrill 2012, fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno at—
(a) berson y mae'r adran honno'r gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogir fel hynny;
(b) y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2012;
(c) y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai; ac
(ch) y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Chwefror 2012