
2012 Rhif 629 (Cy.87)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012
Gwnaed 28 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Mawrth 2012
Yn dod i rym 26 Mawrth 2012

Ymddengys i Weinidogion Cymru bod adran 28 o Ddeddf Gwella'r Fenni 1854, sef darpariaeth statudol leol at ddibenion adrannau 57 a 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, bellach yn anarferedig ac yn ddianghenraid ac wedi ei disodli'n helaeth gan Ddeddf Bwyd 1984.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 26 Mawrth 2012.
Diddymu
2 
Mae adran 28 (y comisiynwyr yn cael ffurfio ac adeiladu marchnad wartheg a lladd-dai) o Ddeddf Gwella'r Fenni 1854 (“Deddf 1854”) wedi ei diddymu (gan gynnwys y graddau y mae adran 26 (ymgorffori Deddf Cymalau Marchnadoedd a Ffeiriau 1847) o Ddeddf 1854 yn cael effaith mewn perthynas ag adran 28).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
28 Chwefror 2012