
2012 Rhif 59 (Cy.13)
Y GYMRAEG, CYMRU
Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012
Gwnaed 11 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Ionawr 2012
Yn dod i rym 6 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 23(4) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddo, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 6 Chwefror 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Yr egwyddorion i'w dilyn
2 
Wrth benodi aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder, a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Gyhoeddus dyddiedig Awst 2009.
Gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi
3 
Wrth benodi personau yn aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol bod aelodaeth y Panel Cynghori yn cynnwys personau sydd â gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi.
Gwybodaeth a phrofiad
4 

(1) Cyn penodi personau yn aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol, ganfod gwybodaeth a phrofiad y Comisiynydd o'r materion canlynol—
(a) llywodraethu corfforaethol;
(b) arfer swyddogaethau sydd wedi'i rhoi gan neu o dan ddeddfiad;
(c) hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu iaith arall;
(ch) cysylltiadau cyhoeddus;
(d) cyfundrefnau rheoleiddiol; a
(dd) gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus, neu wirfoddol.
(2) Wrth benodi personau yn aelodau o'r Panel Cynghori rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol bod gwybodaeth a phrofiad y Comisiynydd ac aelodau'r Panel Cynghori (gyda'i gilydd) yn cynnwys gwybodaeth a phrofiad o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2012