
2012 Rhif 467 (Cy.78)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 20 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Chwefror 2012
Yn dod i rym 16 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 16 Mawrth 2012.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993
2 

(1) Mae Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen, yn lle'r is-baragraff o dan y pennawd “Small Business Rate Relief” rhodder—“
Small Business Rate Relief
The Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2008 makes provision for rates relief for small businesses. Full details including the eligibility criteria, the exceptions, the procedural requirements and the relevant rates reliefs are available from the billing authority.”.
3 
Ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen, yn lle'r is-baragraff o dan y pennawd “Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach” rhodder—“
Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Gellir cael manylion llawn, yn cynnwys meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a'r rhyddhad ardrethi perthnasol gan yr awdurdod bilio.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2012