
2012 Rhif 465 (Cy.76)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 20 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Chwefror 2012
Yn dod i rym 16 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Mawrth 2012.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008
2 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.
(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.
(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.
(5) Ym mhennawd erthygl 11A (y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 30 Medi 2012) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.
(6) Yn erthygl 11A(2) yn lle “30 Medi 2012” rhodder “31 Mawrth 2013”.
(7) Yn erthygl 11A(7)(b)(i) yn lle “Rhan XA o Ddeddf Plant 1989” rhodder “Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010”.
Edwina Hart
Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2012