
2012 Rhif 46 (Cy.10) (C.1)
Y GYMRAEG, CYMRU
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012
Gwnaed 9 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012.
Cychwyn
2 
Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 10 Ionawr 2012—
(a) adran 23(4);
(b) paragraffau 1, 5, 10 ac 11 o Atodlen 4, ac adran 23(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
9 Ionawr 2012