
2012 Rhif 321 (Cy.52)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012
Gwnaed 8 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2012
Yn dod i rym 6 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dod i ben
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2015.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfnod treialu” (“pilot period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 6 Mawrth 2012 ac yn dod i ben ar ddiwedd 30 Mehefin 2015;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010; ac
 ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.
Awdurdodau lleol ac ardaloedd penodedig
3 
At ddibenion adran 17(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009, awdurdodau lleol penodedig yw Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac ardaloedd penodedig yw eu hardaloedd.
Hawl Plentyn i apelio neu wneud hawliad i'r Tribiwnlys
4 
Yn ystod y cyfnod treialu—
(a) ni chaiff plentyn apelio i'r Tribiwnlys yn unol ag adran 322ZA o Ddeddf 1996 ond os yw awdurdod lleol penodedig yn gyfrifol am y plentyn;
(b) ni chaiff person wneud hawliad i'r Tribiwnlys yn unol â pharagraff 3A o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 bod corff sy'n gyfrifol am ysgol wedi mynd yn groes i Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ond os yw'r ysgol mewn ardal benodedig;
(c) nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 332ZB, 332AA, 332BA a 332BB o Ddeddf 1996 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig; ac
(ch) nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan baragraffau 6B, 6C a 6D o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig.
Gwybodaeth
5 
Rhaid i'r Tribiwnlys, awdurdod lleol penodedig a chorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardal benodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl cael cais, roi unrhyw wybodaeth i Weinidogion Cymru y maent yn gofyn amdani er mwyn asesu, monitro a gwerthuso gweithrediad y darpariaethau sy'n cael eu treialu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2012