
2012 Rhif 320 (Cy.51) (C.10)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012
Gwnaed 8 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 24(2) a 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 10 Chwefror 2012
2 
Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 10 Chwefror 2012—
(a) adran 3 (cyfeillion achos);
(b) adran 7 (gweithdrefn y tribiwnlys);
(c) adran 8 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau);
(ch) adran 11 (gweithdrefn y tribiwnlys);
(d) adran 12 (cyfeillion achos);
(dd) adran 17 (treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad);
(e) adran 18 (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn);
(f) adran 19 (dehongli adrannau 17 ac 18);
(ff) adran 23 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen; a
(g) paragraffau 1 a 4 o'r Atodlen.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2012
3 
Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012—
(a) adran 1 (hawl plentyn i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig);
(b) adran 2 (hysbysu a chyflwyno dogfennau);
(c) adran 4 (cyngor a gwybodaeth);
(ch) adran 5 (datrys anghydfodau);
(d) adran 6 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
(dd) adran 9 (hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd);
(e) adran 10 (amser ar gyfer dwyn achos);
(f) adran 13 (cyngor a gwybodaeth);
(ff) adran 14 (datrys anghydfodau);
(g) adran 15 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
(ng) adran 16 (rôl Gweinidogion Cymru);
(h) adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen; a
(i) paragraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen.
Darpariaethau Trosiannol
4 
Ar unrhyw adeg pan fo rheoliadau o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn grym—
(a) mae adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 4(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym;
(b) mae adran 332B o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 5(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2012