
2012 Rhif 3095 (Cy.312)
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012
Gwnaed 13 Rhagfyr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Rhagfyr 2012
Yn dod i rym 4 Ionawr 2013

Gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y person y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn yn berson sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1)(o) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a freiniwyd bellach ynddynt drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012 a daw i rym ar 4 Ionawr 2013.
Pennu Corff Cyhoeddus
2 
Pennir Corff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2012