
2012 Rhif 3036 (Cy.310)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 4 Rhagfyr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Rhagfyr 2012
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2012
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 55,476
Bridgend 110,509
Caerphilly 139,249
Carmarthenshire 146,347
Cardiff 274,592
Ceredigion 62,523
Conwy 93,382
Denbighshire 74,395
Flintshire 120,031
Gwynedd 97,845
Isle of Anglesey 56,398
Merthyr Tydfil 46,297
Monmouthshire 72,667
Neath Port Talbot 111,671
Newport 112,550
Pembrokeshire 97,509
Powys 106,868
Rhondda Cynon Taf 184,278
Swansea 191,909
Torfaen 71,371
Vale of Glamorgan (The) 99,443
Wrexham 106,015”