
2012 Rhif 3023 (Cy.307)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2012
Gwnaed 1 Rhagfyr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Rhagfyr 2012
Yn dod i rym 1 Ionawr 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac adran 118A(1) i (3) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2013.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001.
Diwygio Rheoliadau 2001
2 

(1) Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2001 (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “CCETSW”;
(b) yn y diffiniad o “Cyngor Lloegr”, yn lle “Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol a sefydlwyd gan adran 54 o'r Ddeddf” rhodder “Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001”.
(2) Yn rheoliad 2 hepgorer paragraff (6)(dd).
(3) Yn rheoliad 5 o Reoliadau 2001 (anghymhwyso rhag penodi)—
(a) yn lle paragraff (1)(ch) rhodder y canlynol—“os yw wedi'i gynnwys yn y naill restr neu'r llall a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;”;
(b) ym mharagraff (1)(d) hepgorer “neu gan Gyngor Lloegr” a hepgorer “neu (yn ôl fel y digwydd) gan Gyngor Lloegr”;
(c) ym mharagraff (1)(dd)—
(i) ar ôl “Gyngor yr Alban” mewnosoder “neu yn Rhan 16 o'r gofrestr y mae'n ofynnol i Gyngor Lloegr ei chadw”;
(ii) yn lle “ym mharagraff (ch)” rhodder “yn is-baragraff (d)”;
(iii) hepgorer “neu gan Gyngor Lloegr”;
(d) ym mharagraff (3)—
(i) ar ôl “Gogledd Iwerddon” mewnosoder “, cyfraith” a hepgorer “neu (yn ôl fel y digwydd) gyfraith”;
(ii) ar ôl “yr Alban” mewnosoder “neu (yn ôl fel y digwydd) y gyfraith sy'n ymwneud â'r gofrestr a ddelir gan Gyngor Lloegr”.
(4) Yn rheoliad 6(1) o Reoliadau 2001 (anghymhwyster yn dod i ben) ar ôl “yn y gofrestr” mewnosoder “neu mewn perthynas â'r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Lloegr ar y rhan honno o'r gofrestr”.
Gwenda Thomas
Llofnodwyd gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Rhagfyr 2012