
2012 Rhif 2978 (Cy.304)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
HALOGI BWYD
Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) (Dirymu) 2012
Gwnaed 28 Tachwedd 2012
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 11 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac adrannau 1(1), (2) a (10) a 24(1) a (3) o Ddeddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985, a hwythau bellach heb fod o'r farn bod, neu y gall fod, amgylchiadau sy'n debygol o greu perygl i iechyd pobl os ydynt yn bwyta bwyd fel y'i pennir yng Ngorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) 1991, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) (Dirymu) 2012. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
Dirymu
2 
Mae'r Gorchmynion a bennir yn yr Atodlen wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2012
YR ATODLEN
GORCHMYNION SYDD WEDI EU DIRYMU
Erthygl 2


Gorchmynion Cyfeirnodau
Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) 1991 O.S. 1991/5
Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) (Dirymu'n Rhannol) 1991 O.S. 1991/2780
Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) (Dirymu'n Rhannol) 1994 O.S. 1994/63
Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) (Dirymu'n Rhannol)1995 O.S. 1995/46
Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) (Dirymu'n Rhannol) 1998 O.S. 1998/72
Gorchymyn Diogelu Bwyd (Gwaharddiadau Brys) (Ymbelydredd mewn Defaid) (Cymru) (Dirymu'n Rhannol) 2011 O.S. 2011/2759
Gorchymyn Allforio Defaid (Gwahardd) 1991 O.S. 1991/58