
2012 Rhif 282 (Cy.46)
Y GWASANAETHIECHYD GWLADOL, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 3 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Chwefror 2012
Yn dod i ry 29 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(1) a (2) a 10(2) o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Chwefror 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen, yn y golofn ar yr ochr dde (Awdurdodau Lleol) yn y testun Cymraeg, gyferbyn â “Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr” yn y golofn ar yr ochr chwith (Bwrdd Iechyd Lleol), ar ôl “Sir y Fflint” mewnosoder “, Gwynedd”.
Dirymu
3 
Mae rheoliad 9(7) o Reoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2012