Agraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2012 Rhif 2676 (Cy.290)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2012
Gwnaed 24 Hydref 2012
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 57(2) a 58(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adroddiad dyddiedig Mai 2012 ar ei adolygiad o'r trefniadau etholiadol o fewn sir Ynys Môn, a'i gynigion ar gyfer eu newid.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(a) at ddibenion trafodion sy'n rhagarweiniol i etholiad cynghorwyr neu sy'n ymwneud ag etholiad o'r fath, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn;
(b) at bob diben arall, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2013.
(3) Yn y Gorchymyn hwn mae i “diwrnod arferol ethol cynghorwyr” yr ystyr a roddir i “ordinary day of election for councillors” gan adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Adrannau etholiadol sir Ynys Môn
2 

(1) Mae adrannau etholiadol sir Ynys Môn wedi eu diddymu.
(2) Mae'r sir wedi ei rhannu'n un ar ddeg o adrannau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn enw a restrir yng ngholofn 1 y Tabl yn yr Atodlen ac mae pob un o'r adrannau etholiadol hynny wedi ei ffurfio o'r ardaloedd presennol a bennir mewn perthynas â'r adran etholiadol honno yng ngholofn 2 y Tabl.
(3) Y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r adran etholiadol honno yng ngholofn 3 y Tabl yn yr Atodlen.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Bwrdeistref Ynys Môn-Isle of Anglesey (Trefniadau Etholiadol) 1992 wedi ei ddirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2012
YR ATODLEN
ENWAU AC ARDALOEDD ADRANNAU ETHOLIADOL A NIFER Y CYNGHORWYR
Erthygl 2


Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3)
Enw'r adran etholiadol Ardal yr adran etholiadol Nifer y cynghorwyr
Aethwy Cymunedau Llanfair Pwllgwyngyll, Porthaethwy a Phenmynydd 3
Bro Aberffraw Cymunedau Aberffraw, Bodorgan a Rhosyr 2
Bro Rhosyr Cymunedau Llanidan, Llanfihangel Ysgeifiog, Llanddaniel-fab a Llangristiolus 2
Caergybi Yng Nghymuned Caergybi, wardiau'r Dref, Ffordd Llundain, Morawelon, Porthyfelin a Pharc a'r mynydd 3
Canolbarth Môn Cymunedau Bryngwran, Bodffordd, Llangefni a Threwalchmai; ac, yng Nghymuned Llanddyfnan, wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean 3
Llifon Cymunedau Llanfaelog, Llanfair-yn-neubwll a'r Fali 2
Lligwy Cymunedau Moelfre, Llaneugrad, Llanfair Mathafarn Eithaf a Phentraeth; ac, yng Nghymuned Llanddyfnan, ward Llanfihangel Tre'r-beirdd 3
Seiriol Cymunedau Biwmares, Cwm Cadnant, Llanddona a Llangoed 3
Talybolion Cymunedau Bodedern, Cylch-y-garn, Llannerch-y-medd, Llanfachreth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw 3
Twrcelyn Cymunedau Amlwch, Llanbadrig, Llaneilian a Rhos-y-bol 3
Ynys Gybi Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn; ac yng Nghymuned Caergybi, wardiau Maeshyfryd a Kingsland 3